top of page

ARTISTS / ARTSTIAD

ABIKE OGUNLOKUN

AISHA KIGS

TALK TO COCO

JESSE LEZAMA

HANNAH NEWELL

CHEMBO LIANDISHA

JOSEPH MDAMANYI

FRED MDAMANYI

STEPHEN NDAVI

MFIKELA JEAN SAMUEL 

KELVIN NZIOKA

NNANE NTUBE

JEFFERSON LOBO

PALMER NGALE

Abike Ogunlokun is an artist exploring identity and our relationships to ourselves through portraiture. Abike’s interests include exploring intersectionality of identities and culture as well as encouraging self-acceptance. She uses painting as a tool to explore parts of her identity that she hadn’t been able to relate to growing up and discovering new parts of herself as she grows older.


Abike was born and raised in London by Nigerian parents and now lives in Wales and have been for the past 5 years. During her first few years here being away from friends and family who had known me her entire life spun her perspective and connection to the culture identity as that she learned to rebuild her understanding of the two; independent of others.

​

 

Mae Abike Ogunlokun yn artist sydd yn archwilio hunaniaeth a’n perthynas â’n hunain trwy bortreadau.  Mae diddordebau Abike yn cynnwys archwilio croestoriadedd hunaniaeth a diwylliant yn ogystal ag annog hunandderbyn.  Mae’n defnyddio paentio fel offeryn i archwilio rhan o’i hunaniaeth nad yw wedi gallu uniaethu ag ef wrth dyfu i fyny a chanfod rhannau newydd o’i hun wrth iddi dyfu’n hÅ·n.


Cafodd Abike ei eni a’i magu yn Llundain i rieni Nigeraidd ac mae bellach yn byw yng Nghymru ac wedi gwneud hynny ers 5 mlynedd.  Yn ystod ei blynyddoedd cyntaf yma, ymhell o’i ffrindiau a’i theulu oedd wedi ei hadnabod trwy gydol eu hoes, trodd ei safbwynt a’i cysylltiad at hunaniaeth ddiwylliannol a dysgodd i ailadeiladu ei dealltwriaeth o’r ddau, yn annibynnol ar eraill.

​

​

​

Aisha Kigs is a singer songwriter based in Cardiff, Wales. Aisha has been involved with the TuWezeshe Akina Dada fellowship programme in 2017 – 2018. She was also the creative director of G.I.R.L. exhibition, where she curated and showcased Wales’s young black artists through the theme of black female individuality.

 

Through Madaraja, Aisha wants to direct a her own music as the focal point, creating a four-dimensional world celebrating the beauty and complexities of black femininity. She plans to do this with a visual EP that will have 5-6 songs. Her song writing is inspired by her personal experiences as a dark skin black woman, having grown up in an environment where she felt she had to defend her own femininity against Eurocentric beauty standards. Aiming to decolonise the black women tropes (the mammy, the Sapphire, the Jezebel, and Strong black women) and spin them on their heads.

 

Aisha Kigs

 

Mae Aisha Kigs yn canu ac yn cyfansoddi ac yn byw yng Nghaerdydd.  Bu Aisha yn gysylltiedig â rhaglen cymdeithas TuWezeshe Akina Dada yn 2017 – 2018.  Hi hefyd oedd cyfarwyddwr creadigol arddangosfa G.I.R.L. lle curadodd ac arddangosodd artistiaid du ifanc Cymru trwy thema unigoliaeth fenywaidd ddu.

 

Trwy Madaraja, mae Aisha eisiau cyfarwyddo ei cherddoriaeth ei hun fel canolbwynt, gan greu byd pedwar dimensiwn yn dathlu harddwch a chymhlethdod benyweidd-dra du.  Ei bwriad yw gwneud hyn gydag EP gweledol fydd yn cynnwys 5-6 chân.  Mae ei chyfansoddi wedi ei ysbrydoli gan ei phrofiadau personol fel menyw ddu croen tywyll, wedi ei magu mewn amgylchedd lle’r oedd yn teimlo ei bod yn gorfod amddiffyn ei benyweidd-dra ei hun yn erbyn safonau harddwch sydd yn canolbwyntio ar Ewrop, gyda’r nod o ddadwladychu trosiadau menywod du (y Mammy, y Saffir, y Jesebel, a menywod du cryf) a’u troi ar eu pennau.

​

​

​

Coco is a non-binary, black, creative activist, writer, poet and model; a creator for change, aiming to dismantle the stereotype attached to what it is, to be ‘different’ in society, and changing what ‘normal’ is. Always using their personal experiences as artist, creative activist and non-binary black queer – combating the stigmas of the world, showing it’s ok. Using their platform, artistry and writing; explores all aspects of poetry - spoken, visual and written. Using their voice as a lens for honesty and transparency, whilst saving lives. As its vital to see people around the world thriving and feeling a-part of something, importance and not alone. Coco believes it’s imperative to continue inspiring people like themselves for them to keep going and to become comfortable living different. 

 

Coco

 

Mae Coco yn weithredydd creadigol, awdur, bardd a model du, anneuaidd; yn creu newid, yn ceisio datgymalu’r stereoteip sydd yn gysylltiedig â’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘wahanol’ mewn cymdeithas, a newid beth yw ‘normal’.  Bob amser yn defnyddio profiadau personol fel artist, gweithredydd creadigol a cwiar du anneuaidd – yn brwydro yn erbyn stigmas y byd, gan ddangos eu bod yn iawn.  Gan ddefnyddio eu llwyfan, celfyddyd a’u hysgrifennu, mae’n archwilio pob agwedd ar farddoniaeth – lafar, weledol ac ysgrifenedig.  Yn defnyddio eu llais fel lens ar gyfer gonestrwydd a thryloywder, tra’n achub bywydau.  Gan ei fod yn hanfodol gweld pobl ar draws y byd yn ffynnu ac yn teimlo’n rhan o rywbeth, yn bwysig a ddim ar ben eu hunain.  Mae Coco’n credu ei fod yn hanfodol parhau i ysbrydoli pobl fel nhw i barhau a dod yn gyfforddus yn byw’n wahanol. 

​

​

​

Jesse Lezama is a UK based figurative painter from Swansea. Born in Trinidad and Tobago to a young West Indian couple who shortly after migrated to Britain, Jesse found great purpose early on in depicting the life around him. "Beauty is important and people need it in their lives. I like my work to exude a kind of peace. I like a painting to be quiet, absorbing; something that hangs on your wall and holds a sense of balance in the back of your mind when you walk by.”

 

Mae Jesse Lezama yn arlunydd trosiadol o Abertawe.  Cafodd ei eni yn Trinidad a Tobago i bâr ifanc o India’r Gorllewin a fudodd i Brydain yn fuan wedi hynny.  Canfuodd Jesse gryn bwrpas yn gynnar yn portreadu bywyd o’i amgylch. "Mae prydferthwch yn bwysig ac mae ei angen ar bobl yn eu bywydau.  Rwyf eisiau i’m gwaith gael naws o heddwch.  Rwyf eisiau i arlunio fod yn dawel ac yn gyfareddol; yn rhywbeth sydd yn hongian ar y mur ac yn cynnwys teimlad o gydbwysedd yng nghefn eich meddwl pan fyddwch yn cerdded heibio."

​

​

​

​

Hannah Newell grew up in Malawi where she lived for 12 years. Now living in Cardiff, Hannah has created over 350 paintings, in both digital and acrylic forms. Her paintings are inspired by African landscapes, sunsets and animals. She is also a vegetarian and have a real interest in running 5k and swimming in the sea. Her favourite book is Nervous Conditions by Tsitsi Dangarembga. She is looking forward to starting her new project with us! She will be exploring tradition dance from Africa and Wales.

 

Cafodd Hannah Newell ei magu ym Malawi lle bu’n byw am 12 mlynedd.  Bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Hannah wedi creu dros 350 o ddarluniau, ar ffurfiau digidol ac acrylig.  Mae ei darluniau wedi eu hysbrydoli gan dirweddau Affricanaidd, machlud haul ac anifeiliaid.  Mae hefyd yn llysieuwraig ac mae ganddi ddiddordeb gwirioneddol yn rhedeg 5k ac yn nofio yn y môr.  Ei hoff lyfr yw Nervous Conditions gan Tsitsi Dangarembga.  Mae’n edrych ymlaen at ddechrau ei phrosiect newydd gyda ni!  Bydd yn archwilio dawns draddodiad o Affrica a Chymru.

​

​

​

Chembo Liandisha is a Musician and Actor born in Zambia and raised in North Wales, UK. Since her Debut EP ‘Love Vs Reality’ (a fusion of r'n'b reggae, afro fusion and soul) was released in 2017, Chembo has graced the stages such as Festival, Zamfest (Zambia) and Focus Wales (Wales, 2019). She has also been showcased by world renowned radio platforms such as BBC, HOT FM and many other international platforms. Chembo has been recognised in Wales by BBC
Wales and Arts Council of Wales. Chembo took part in our Days Ahead project, with her visual performance  'We Are the Future'. She is currently working on a new body of music as well as Performance Art.

  

Mae Chembo Liandisha yn Gerddor ac yn Actor a anwyd yn Zambia a’i magu yng Ngogledd Cymru, DU.  Ers i’w EP Cyntaf, ‘Love Vs Reality’ (cyfuniad o r'n'b reggae, uniad affro a cherddoriaeth yr enaid) gael ei ryddhau yn 2017, mae Chembo wedi bod ar lwyfannau fel Festival, Zamfest (Zambia) a Focus Wales (Cymru, 2019).  Mae hefyd wedi cael ei harddangos ar lwyfannau radio byd-enwog fel BBC, HOT FM a sawl llwyfan rhyngwladol arall.  Mae Chembo wedi cael ei chydnabod yng Nghymru gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.  Cymerodd Chembo ran yn ein prosiect Days Ahead, gyda’i pherfformiad gweledol 'We Are the Future'.  Mae’n gweithio ar gorff newydd o gerddoriaeth ar hyn o bryd yn ogystal â Chelfyddyd Perfformio.

​

​

 

Joseph Mdamanyi is a 29-year-old Tanzanian artist based in Dar es Salaam. Joseph was born in central Tanzania (Singida Region). He started drawing at the age of 8, drawing has been a very significant part of his life. He holds a Bachelor Degree in Geography and Environmental Study, graduating in 2016. Specializing in realistic pencil drawing using charcoal and colored pencils, but also painting, graffiti and quick/speed sketching. His inspiration comes from different areas in life; culture, beauty, personality and others, Depending on the message he wants to portray to his audience.

 

Mae Joseph Mdamanyi yn artist 29 oed o Tansania, wedi ei leol yn Dar es Salaam.  Cafodd Joseph ei eni yn nghanolbarth Tanzania (Rhanbarth Singida).  Dechreuodd arlunio yn 8 oed ac mae arlunio wedi bod yn rhan sylweddol o’i fywyd.  Mae ganddo Radd Baglor mewn Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol, gan raddio yn 2016.  Mae’n arbenigo mewn darluniau pensel realistig gan ddefnyddio siarcol a phensiliau lliw, ond hefyd mewn paentio, graffiti a braslunio cyflym.  Daw ei ysbrydoliaeth o feysydd gwahanol yn ei fywyd; diwylliant, harddwch, personoliaeth ac eraill, yn dibynnu ar y neges y mae eisiau ei phortreadu i’w gynulleidfa.

​

​

​

 

Fred Mdamanyi is a 26-year-old Tanzanian artist based in Dar es Salaam, born in central Tanzania, Singida Region – Fred persuaded a bachelor’s degree in Art and industrial design from Kyambogo University. He specializes in pencil and coloured pencil drawings, paintings and other forms of visual art including graphics design, digital painting, sculpture, ceramics among others.

 

He started started drawing at the age of 9. There are many things that contribute to the inspiration behind his art works; Adventure, everyday activities, beauty, wanting to study human skin texture and many others.

​

 

Mae Fred Mdamanyi yn artist 26 oed o Tanzania, sydd wedi ei leoli yn Dar es Salaam ond fe’i ganwyd yng nghanolbarth Tanzania, Rhanbarth Singida.  Cafodd Fred radd fagloriaeth mewn Celf a Dylunio Diwydiannol ym Mhrifysgol Kyambogo.  Mae’n arbenigo mewn lluniau pensel a phensel lliw, paentiadau a mathau eraill o gelf gweledol yn cynnwys dylunio graffeg, paentio digidol, cerflunio, serameg ac eraill.

 

Dechreuodd dynnu lluniau yn 9 oed.  Mae llawer o bethau sy’n cyfrannu at yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w waith celf: antur, gweithgareddau bob dydd, harddwch, eisiau astudio gwead croen dynol a llawer mwy.

​

​

 

Stephen Ndavi is a conceptual artist and a retired primary school teacher based in Nairobi, Kenya. In Dec 2017, at the age of 27 he quit the teaching profession and decided to venture in art. He was born and raised in the Mukuru slums of Nairobi where he intends to stabilize the community through his work of art. His work is mainly based on realism subjects which he chose purposely to act as a mode of therapy towards the effects of war and trauma he experienced working as a teacher back in Sudan. His skill has developed tremendously over the last 3 years leading to clients draw special interest in his work.

 

Mae Stephen Ndavi yn artist cysyniadol ac yn athro ysgol gynradd wedi ymddeol wedi ei leoli yn Nairobi, Kenya.  Yn Rhag 2017, yn 27 oed, gadawodd y proffesiwn dysgu a phenderfynodd fentro i fyd celf.  Cafodd ei eni a’i fagu yn slymiau Mukuru yn Nairobi, lle mae’n bwriadu sefydlogi’r gymuned trwy ei waith celf.  Mae ei waith yn seiliedig yn bennaf ar destunau realaeth y mae’n eu dewis yn bwrpasol i weithredu fel therapi tuag at effeithiau rhyfel a thrawma a brofodd yn gweithio fel athro yn Y Swdan.  Mae ei sgil wedi datblygu’n eithriadol dros y 3 blynedd diwethaf.

​

​

​

 

Mfikela Jean Samuel is a Contemporary Artist (Painter) from Africa of many pursuits. This Contemporary African Painter was born in the Kumbo in the grass fields of the North West Region of Cameroon in Central Africa. This Contemporary Artist now resides permanently in North Wales in the United Kingdom. He has travelled and continues to travel for artistic exploits Across Europe and Africa. His paintings have been exhibited throughout the world in both public and private Galleries and other cultural events. 

 

His primary medium is Acrylic on Canvas, but he occasionally works with Artist oil Colours. Mfikela Samuel’s Primary source of Inspiration comes from his African Cultural Heritage especially the ways of life of his lineage both past and present, his brush strokes, bold and vibrant colours depicts the vast richness of his diverse Cultural story. He also uses historical and contemporary themes where fact, imagination and illusions are brilliantly depicted. His art can be dramatic, subtle, large or small but often captures simplicity and context thus reflecting a true Artistic insight. Mfikela Samuel considers himself as a contemporary Artist (Painter) inspired by his African heritage. 

​

Mae Mfikela Jean Samuel yn Artist Cyfoes (Arlunydd) o Affrica gydag amryw ddiddordebau.  Ganed yr Arlunydd Affricanaidd Cyfoes hwn yn Kumbo ym meysydd glas Rhanbarth Gogledd Orllewin Cameroon yng Nghanol Affrica.  Mae’r Artist Cyfoes hwn bellach yn bwy’n barhaol yng Ngogledd Cymru yn y Deyrnas Unedig.  Mae wedi teithio ac mae’n parhau i deithio er mwyn  cael gorchestion artistig ar draws Ewrop ac Affrica.  Mae ei ddarluniau wedi cael eu harddangos ar draws y byd mewn Orielau cyhoeddus a phreifat ac mewn digwyddiadau diwylliannol eraill. 

 

Ei brif gyfrwng yw Acrylig ar Gynfas, ond mae weithiau’n gweithio gyda Lliwiau olew Artistiaid.  Daw prif ffynhonnell ysbrydoliaeth Mfikela Samuel o’r Dreftadaeth Ddiwylliannol Affricanaidd, yn arbennig ffordd o fyw ei linach presennol ac yn y gorffennol.  Mae ei waith gyda’r brwsh, ei liwiau mentrus, llachar, yn cyfleu cyfoeth eang ei stori Ddiwylliannol amrywiol.  Mae hefyd yn defnyddio themâu hanesyddol a chyfoes lle mae ffaith, dychymyg a darluniau’n cael eu cyfleu’n rhagorol.  Mae ei gelf yn gallu bod yn ddramatig, yn gynnil, yn fawr neu’n fach, ond mae’n aml yn cyfleu symlrwydd a chyd-destun ac felly’n adlewyrchu mewnwelediad gwirioneddol Artistig (Arlunydd) wedi ei ysbrydoli gan ei dreftadaeth Affricanaidd. 

​

​

​

Kelvin Nzioka is a conceptual artist based in Nairobi, Kenya. He is part of the Mukuru Art Collective under the mentorship of Adam Masava. His artwork speaks of the daily challenges people encounter, aiming to gain a better understanding of how humanity works. Through Madaraja, Kelvin would like to explore themes of identity and community.

​

Mae Kelvin Nzioka yn artist cysyniadol wedi ei leoli yn Nairobi, Kenya.  Mae’n rhan o Gydweithfa Gelf Mukuru o dan fentoriaeth Adam Masava.  Mae ei waith celf yn sôn am yr heriau dyddiol y mae pobl yn dod ar eu traws, gyda’r nod o gael dealltwriaeth well o’r ffordd y mae’r ddynoliaeth yn gweithio.  Trwy Madaraja, dymuna Kelvin archwilio themâu hunaniaeth a chymuned.

​

​

​

​

Nnane Ntube was born in Kumba, South West region of Cameroon. She is a bilingual teacher (French and English), poet, performer, literary activist, peace advocate, mentor and author. Nnane believes in the power of poetry to change mindsets and in quality education. She volunteers her services to mentor young girls, graduates and young creatives. Her dream is to have parents of her community believe in the creativity of their children and in the power of literature. Nnane is the coordinator of CLIJEC (Cercle Littéraire des Jeunes du Cameroun) where she and her team organise the African Festival of Emerging Writers (FESTAE). She equally coordinates Writers Space Africa, Cameroon chapter (WSA-C). Nnane is the curator of the Young English Cameroonian Writers Award (YECWA). 

 

Ganed Nnane Ntube yn Kumba, rhanbarth De Orllewin Cameroon.  Mae’n athrawes ddwyieithog (Ffrangeg a Saesneg), yn fardd, perfformwraig, gweithredydd llenyddol, eiriolwr heddwch, yn fentor ac yn awdur.  Cred Nnane yng ngrym barddoniaeth i newid cyfeiriad meddwl ac mewn addysg o ansawdd.  Mae’n gwirfoddoli ei gwasanaethau i fentora merched ifanc, graddedigion a phobl ifanc greadigol.  Ei breuddwyd yw cael rhieni yn ei chymuned i gredu yn nawn greadigol eu plant a grym llenyddiaeth.  Nnane yw cydlynydd CLIJEC (Cercle Littéraire des Jeunes du Cameroun) lle mae hi a’i thîm yn trefnu Gŵyl Affricanaidd Awduron Datblygol (FESTAE).  Mae’n cydlynu Writers Space Africa, pennod Cameroon (WSA-C).  Nnane yw curadur Gwobr Awduron Ifanc Saesneg Cameroon (YECWA). 

​

​

​

​

Born in Bahia, Brazil music creator and musician Jefferson Lobo’s love for music started early in his post- colonial home  town Salvador,  from  listening  to classical music on the radio  to watching marching bands  and  African-style drumming  groups parading through  streets of the old district  was a staple while  growing up.

 

Since he moved to the UK, he embraced more complex musical elements found in jazz and classical music and has studied music production , arrangement  and composition. While he is preparing to release some of his jazz-funk orchestral tunes his excitement to be part of the SSAP’s Madaraja  diaspora Project is undeniable as this unique opportunity will help  strengthen his African heritage and by collaborating with an especially selected array of African descendent and African artists.

 

 

Wedi ei eni yn Bahia, Brasil, dechreuodd angerdd y crëwr cerddoriaeth a’r cerddor, Jefferson Lobo tuag at gerddoriaeth yn gynnar yn ei gartref ôl-drefedigol, Salvador, wrth wrando ar gerddoriaeth glasurol ar y radio a gwylio bandiau gorymdaith a grwpiau drymio Affricanaidd yn gorymdeithio trwy strydoedd yr hen ranbarth, oedd yn arferiad pan oedd yn tyfu i fyny.

 

Ers symud i’r DU, mae wedi croesawu elfennau cerddorol mwy cymhleth a geir mewn jazz a cherddoriaeth glasurol ac mae wedi astudio cynhyrchu, trefnu a chyfansoddi cerddoriaeth.  Wrth baratoi i ryddhau rhai o’i donau cerddorfaol jazz-ffync, mae ei gyffro o fod yn rhan o Brosiect alltudion Madaraja yr SSAP yn amlwg am y bydd y cyfle unigryw hwn yn helpu i gryfhau ei dreftadaeth Affricanaidd a thrwy gydweithredu â myrdd wedi eu dethol yn arbennig o ddisgynyddion Affricanaidd ac artistiaid Affricanaidd.

​

​

​

​

Palmer's debute as a filmmaker was in September 2006 and since then movies has been my main activity. Shoot and taken part in many movies. Palmer is one of the focal persons as far filmmaking is concerned in the whole of Fako Division which stands out as the biggest content provider in the whole of Central Africa. Buea is headquarters of Fako Divisuion. Palmer champions location management, he is a script writer, he acts and produces. Palmer is the National Vice Secretary General of the Cameroon Film Industry.

 

Gwnaeth Palmer ei ffilm gyntaf ym Medi 2006 ac ers hynny ffilmiau yw ei brif weithgaredd, wedi saethu a chymryd rhan mewn sawl ffilm.  Palmer yw un o’r prif bobl yn ymwneud â ffilmiau yn Rhanbarth gyfan Fako ac mae’n sefyll allan fel prif ddarparwr cynnwys Canolbarth Affrica gyfan.  Buea yw pencadlys Rhanbarth Fako.  Mae Palmer yn hyrwyddo rheoli lleoliadau, mae’n awdur sgriptiau, mae’n actio ac yn cynhyrchu.  Palmer yw Is-ysgrifennydd Cyffredinol Cenedlaethol Diwydiant Ffilm Cameroon.

FEATURED ON

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I’m a great place for you to tell a story and let your users know a little more about you.

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I’m a great place for you to tell a story and let your users know a little more about you.

I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. I’m a great place for you to tell a story and let your users know a little more about you.

bottom of page